|
CYFEILLION CERDD CONWY
CYFEILLION CERDD CONWY: Elusen sy’n amcanu at wella addysg gerddorol i ieuenctid Bwrdeistref Sirol Conwy. Dymuniad yr aelodau yw cynnig cymorth a chefnogaeth ariannol i
Weithgareddau cerdd rhyng-ysgol ieuenctid hyd at 21oed sy,n dal mewn addysg llawn amser, ond nad yw’r Sir yn gallu eu cynnig yn arferol.
Er mwyn gwneud hyn, ceisiwn hybu diddordeb y cyhoedd yng ngherdd ieuenctid Conwy. Rydym yn casglu arian drwy dderbyn rhoddion, gwneud casgliadau, rafflau, loteri, ac yn y blaen. Byddwn yn cydweithio gyda swyddogion y Sir a chyrff “Cyfeillion” eraill yng Ngogledd Cymru er mwyn galluogi ieuenctid Sir Conwy i ymwneud hefo ieuenctid o’r 5 sir arall i hybu gweithgareddau cerddorol ar y cyd. Rhoddir cefnogaeth hefyd i ieuenctid Sir Conwy i hybu cysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol drwy gyfrwng cerddoriaeth.
Mae aelodaeth o CYFEILLION CERDD CONWY yn agored i’r cyhoedd yn gyffredinol drwy dalu tanysgrifiad aelodaeth.
Cysylltwch a ni drwy gyfrwng y wefan yma drwy e-bostio FCM@cerdd.fsnet.co.uk neu gyfarfod a ni mewn cyngherddau a drefnir gan Gwasanaeth Cerdd Conwy.
|