|
|
 |
 |
 |
 |
 |
|
 |
|
|
Beth sydd ar gael?
Yn ychwanegol i’r gwersi yn yr ysgolion, mae Gwasanaeth Cerdd Conwy yn rhedeg Canolfannau Cerdd ar ôl oriau ysgol gyda cherddorfeydd, grwpiau, bandiau a chorau ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd. Mae gweithgareddau gwahanol yn digwydd mewn gwahanol rannau o’r sir er mwyn rhoi cyfle i gymaint o bobl ifanc a phosib gymryd rhan. Rhoddir anogaeth i ddisgyblion blaengar gymryd rhan mewn grwpiau rhanbarthol ac mewn gweithgareddau Cerddoriaeth Genedlaethol Ieuenctid Cymru.
|
|
|
|
CANOLFAN GERDD LLANDUDNO
Yn cyfarfod ar ddydd LLUN yn nhymhorau’r Hydref a’r Gwanwyn yn Ysgol John Bright, mae yno Gerddorfa Iau, Ensemble Gitâr Clasurol Iau, Ensemble Gitâr Clasurol Hn ac, ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd, ymarfer band cerddoriaeth gyfoes.
|
|
|
|
CANOLFAN GERDD BAE PENRHYN
Mae Cerddorfa Ieuenctid y Sir a’r Band Cerddoriaeth Gyfoes Hn yn cyfarfod ar nos IAU yn Ysgol y Creuddyn. Bydd yr Ensemble Telyn Hn, sy’n ymarfer yn yr ysgolion, yn ymuno â nhw ar gyfer cyngherddau.
|
|
|
|
CANOLFAN GERDD LLANRWST
Bydd Cerddorfa Iau ac Ensemble Gitâr Clasurol yn cyfarfod yn yr ysgol yn ne’r sir ar nos IAU. Mae’r gwasanaeth yn awyddus i ysgogi cerddorion ifanc sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf gwledig i ymuno a datblygu’r hwyl sydd i’w gael mewn cerddoriaeth grwp.
|
|
|