e-mail/e-bost:-

maestro@cerdd.fsnet.co.uk

LLAIS

Disgrifiad:-  offeryn naturiol sy’n eiddo i pob un ohonom.  Lleisiau plant yn rhannu’n soprano ac alto.  Lleisiau aeddfed dynion yn rhannu’n bas, bariton, tenor ac alto gwryw. Lleisiau aeddfed merched yn rhannu’n gontralto, mezzo-soprano a soprano.  Gellir rhannu pob un o’r categorïau hyn ymhellach gyda lleisiau sydd wedi derbyn hyfforddiant.

Cludiant:-  dim problem

Costau:-  yn rhad ac am ddim

Tros:- Dim costau.  Yn weithgaredd cymdeithasol ardderchog.  Yn dda iawn ar gyfer pobl sy’n dioddef o afiechydon megis asma.  Llawer o gyfleoedd i ymuno â chorau  plant, meibion, merched neu gymysg.  Llawer o gyfleoedd i ganu mewn amrywiaeth o arddulliau  ysgafn, pop/roc, jazz, clasurol, gwerin, cerdd dant, crefyddol.  Llawer o gyfleoedd i ymddangos fel unawdwyr oherwydd yr holl eisteddfodau a chystadlaethau.  Creu neu ymuno â grwpiau o bob math hefyd yn syml. 

Yn erbyn:-  anwydau a phob afiechyd arall yn effeithio ar y llais. Llyfrau cerddoriaeth yn gallu bod yn ddrud i unawdwyr