e-mail/e-bost:-

maestro@cerdd.fsnet.co.uk

TROSOLWG

Beth yw Gwasanaeth Cerdd Conwy?
Mae’r Gwasanaeth yn rhan o Adran Addysg Cyngor Bwrdeistref Conwy. Bydd yn darparu hyfforddiant offerynnol a lleisiol barhaol ar gyfer ysgolion Cynradd ac Uwchradd gyda thîm o athrawon cerdd proffesiynol. Bydd disgyblion yn dysgu chwarae offerynnau a chanu gan gymryd, ble’n addas, arholiadau cenedlaethol cydnabyddedig. Yn ychwanegol, mae cerddorfeydd, grwpiau, prosiectau arbennig ac amrywiaeth o weithgareddau eraill, fel sydd i’w gweld isod. Rheolwr y gwasanaeth yw Julie Meehan, Swyddog Datblygu Celfyddydau Mynegiannol.

Cliciwch ‘PROSIECTAU’ er mwyn darganfod ein CYSTADLEUAETH GYFANSODDI

Cliciwch ‘CYFEILLION’ er mwyn darganfod mwy am ‘CYFEILLION CERDD CONWY’

Grwpiau Sirol
Yn ychwanegol i’r gwersi yn yr ysgolion mae’r Gwasanaeth Cerdd yn rhedeg Canolfannau Cerdd rheolaidd ar ôl oriau ysgol, gyda cherddorfeydd, grwpiau, bandiau a chorau ar lefel gynradd ac uwchradd. Rhoddir anogaeth i ddisgyblion blaengar fynychu grwpiau rhanbarthol a gweithgareddau Cerddoriaeth Genedlaethol Ieuenctid Cymru .

CLICIWCH ‘CYMRAEG’ AC YNA ‘GRWPIAU’ I GANFOD MWY.

Benthyg a Phrynu Offerynnau
Gall y Gwasanaeth Cerdd fenthyg offerynnau am flwyddyn neu ddwy (yn dibynnu beth sydd ar gael), er mwyn galluogi disgyblion i ddarganfod offeryn addas heb y gost o brynu. Pan fo angen, gall yr athrawon gynghori wrth brynu offeryn, yn aml yn llawer rhatach na phris siop.

Cyngherddau Disgyblion
Bydd disgyblion sy’n mynychu’r Canolfannau Cerdd yn perfformio mewn cyngherddau Nadolig a Phasg ar gyfer eu cyfeillion, eu teuluoedd a’r cyhoedd yn gyffredinol. Cynhelir cyngherddau eraill yn achlysurol mewn amrywiaeth o safleoedd drwy’r sir, gan amlygu arddulliau arbennig megis Pop/Roc a chynnig llwyfan ar gyfer unawdwyr talentog ac/neu rannu cyfansoddiadau gwreiddiol gan ddisgyblion.

Cyngherddau Ensemble yStaff
Bob tymor yr haf bydd yr athrawon cerdd yn teithio’r ysgolion Cynradd gyda rhaglen ddeniadol o gerddoriaeth o Gymru ac o weddill y byd. Maent yn hynod boblogaidd gyda’r disgyblion ac yn rhoi cyfle perffaith i’r athrawon gyflwyno gwahanol offerynnau ac arddulliau mewn perfformiadau byw. Mae croeso i rieni a theuluoedd fynychu’r cyngherddau, yn dibynnu ar rwystrau’r ysgolion unigol (cysylltwch a’r prifathro lleol am fwy o fanylion).